Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 5:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwrandwch, chi offeiriaid!Daliwch sylw, bobl Israel!Clywch, chi'r teulu brenhinol!Mae'r farn ar fin dod arnoch!Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa,a rhwyd i ddal pobl Tabor;

2. yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol,a bydda i'n eich cosbi chi i gyd.

3. Dw i'n gwybod yn iawn am Effraim.Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i!Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio –mae Israel wedi ei llygru'n llwyr.

4. Mae eu drygioni'n eu rhwystrorhag troi yn ôl at eu Duw.Mae puteindra ysbrydol wedi eu meddiannu,a dŷn nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.

5. Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni.A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw.

6. Wedyn, byddan nhw'n mynd at yr ARGLWYDDgyda'i defaid a'u geifr a'u bustych.Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi eu gadael nhw.

7. Maen nhw wedi bradychu'r ARGLWYDDac maen nhw wedi cael plant siawns.Yn fuan iawn, ar Ŵyl y Lleuad Newydd,byddan nhw a'u tir yn cael eu difa.

8. Chwythwch y corn hwrdd yn Gibea!Canwch utgorn yn Rama!Rhybuddiwch bobl Beth-afen!Ti fydd gyntaf, Benjamin!

9. Bydd Effraim yn cael ei dinistrio ar ddydd y cosbi!Mae beth dw i'n ei ddweud wrth lwythau Israelyn mynd i ddigwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 5