Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 4:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bobl Israel, gwrandwch ar y neges sydd gan yr ARGLWYDD i chi! Mae'r ARGLWYDD yn dwyn achos yn erbyn pobl y wlad: “Does yna neb sy'n ffyddlon, neb sy'n garedig, neb sy'n nabod Duw go iawn.

2. Ond mae yna ddigon o regi, twyllo, llofruddio, dwyn a godinebu! Mae yna drais ym mhobman!

3. A dyna pam fydd y wlad yn methu a'i phobl yn mynd yn wan. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt a'r adar a'r pysgod yn diflannu!

4. Peidiwch pwyntio'r bys at bobl eraill, a rhoi'r bai arnyn nhw.Mae fy achos yn eich erbyn chi offeiriaid!

5. Byddwch yn baglu yng ngolau dydd,a bydd eich proffwydi ffals yn baglu gyda chi yn y nos.Bydd dychryn yn eich dinistrio!

6. Mae fy mhobl yn cael eu dinistrio am nad ydyn nhw'n fy nabod i.Dych chi offeiriaid ddim eisiau fy nabod i,felly dw i ddim eisiau chi yn offeiriaid.Dych chi wedi gwrthod dysgeidiaeth eich Duwfelly dw i'n mynd i wrthod eich plant chi.

7. Wrth i'r offeiriaid ennill mwy a mwy o gyfoethmaen nhw'n pechu mwy yn fy erbyn i –cyfnewid yr Un Gwych am beth gwarthus!

8. Maen nhw'n bwyta offrymau dros bechod fy mhobl!Maen nhw eisiau i'r bobl bechu!

9. Ac mae'r bobl yn gwneud yr un fath â'r offeiriaid –felly bydda i'n eu cosbi nhw i gyd am y drwg;talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.

10. Byddan nhw'n bwyta, ond byth yn cael digon.Byddan nhw'n cael rhyw, ond ddim yn cael plant.Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDDa bwrw ati i buteinio.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 4