1. O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw. Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio.
2. Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau'n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti.
3. Dydy Asyria ddim yn gallu'n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‛ein duwiau‛ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy'n garedig at yr amddifad!”
4. “Dw i'n mynd i'w gwella o'u gwrthgilio,a'u caru nhw'n ddiamod.Dw i'n mynd i droi cefn ar fy nig.
5. Bydda i fel gwlith i Israel –bydd hi'n blodeuo fel saffrwn,a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus.
6. Bydd ei blagur yn tyfu;bydd yn hardd fel coeden olewydd,a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus.