Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 1:4-11 beibl.net 2015 (BNET)

4. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw fe'n Jesreel, achos yn fuan iawn dw i'n mynd i gosbi llinach frenhinol Jehw am y tywallt gwaed yn Jesreel. Dw i'n mynd i ddod â teyrnas Israel i ben.

5. Bydda i'n dinistrio grym milwrol Israel yn Nyffryn Jesreel.”

6. Pan oedd Gomer yn feichiog eto, dyma hi'n cael merch y tro yma. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw hi'n Lo-rwhama (sef ‛dim trugaredd‛). Fydda i'n dangos dim trugaredd at wlad Israel o hyn ymlaen. Maen nhw wedi fy mradychu i.

7. Ond bydda i yn dangos trugaredd at wlad Jwda. Fi, yr ARGLWYDD eu Duw, fydd yn eu hachub nhw, nid arfau a grym milwrol a rhyfela.”

8. Cyn gynted ag roedd Gomer wedi stopio bwydo Lo-rwhama ar y fron, roedd hi'n feichiog eto, a dyma hi'n cael mab arall.

9. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Galw fe'n Lo-ammi (sef ‛dim fy mhobl‛). Achos dych chi ddim yn bobl i mi, a dw i ddim yn Dduw i chi.”

10. Ond yn y dyfodol, bydd poblogaeth Israel fel y tywod ar lan y môr – yn amhosib i'w cyfrif. Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, “Dych chi ddim yn bobl i mi” byddan nhw'n cael eu galw yn “blant y Duw byw”!

11. Bydd pobl Jwda a pobl Israel yn uno gyda'i gilydd. Byddan nhw'n dewis un arweinydd, ac yn codi eto o'r tir. Bydd hi'n ddiwrnod mawr i Jesreel!

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 1