Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 5:18-23 beibl.net 2015 (BNET)

18. Pan oedd Iered yn 162 oed cafodd ei fab Enoch ei eni.

19. Buodd Iered fyw am 800 mlynedd ar ôl i Enoch gael ei eni, a chafodd blant eraill.

20. Felly roedd Iered yn 962 oed yn marw.

21. Pan oedd Enoch yn 65 oed cafodd ei fab Methwsela ei eni.

22. Roedd gan Enoch berthynas agos gyda Duw, a buodd fyw am 300 mlynedd ar ôl i Methwsela gael ei eni, a chafodd blant eraill.

23. Felly dyma Enoch yn byw i fod yn 365 oed.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 5