Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 30:7-24 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dyma Bilha, morwyn Rachel, yn beichiogi eto, a rhoi mab arall i Jacob.

8. A dyma Rachel yn dweud, “Dw i wedi ymladd yn galed yn erbyn fy chwaer, ac wedi ennill!” Felly dyma hi'n ei alw'n Nafftali.

9. Pan sylweddolodd Lea ei bod hi wedi stopio cael plant, dyma hithau'n rhoi ei morwyn Silpa yn wraig i Jacob.

10. A dyma Silpa, morwyn Lea, yn cael mab i Jacob.

11. “Am lwc dda!” meddai. A dyna pam wnaeth hi alw'r plentyn yn Gad.

12. Wedyn cafodd Silpa ail fab i Jacob.

13. “Dw i mor hapus!” meddai Lea. “Bydd merched yn dweud mor hapus ydw i.” Felly dyma hi'n ei alw yn Asher.

14. Un diwrnod, ar adeg y cynhaeaf gwenith, aeth Reuben allan a dod o hyd i ffrwythau cariad mewn cae. A daeth â nhw yn ôl i'w fam, Lea. Yna dyma Rachel yn gofyn i Lea, “Plîs ga i rai o'r ffrwythau cariad wnaeth dy fab eu ffeindio?”

15. Ond atebodd Lea, “Oedd cymryd fy ngŵr i ddim yn ddigon gen ti? Wyt ti nawr am gymryd y ffrwythau cariad ffeindiodd fy mab hefyd?” Felly dyma Rachel yn dweud wrthi, “Cei di gysgu gydag e heno os ca i'r ffrwythau cariad ffeindiodd dy fab.”

16. Pan oedd Jacob ar ei ffordd yn ôl o'r caeau gyda'r nos, aeth Lea allan i'w gyfarfod. “Rhaid i ti gysgu hefo fi heno,” meddai wrtho. “Dw i wedi talu am dy gael di gyda'r ffrwythau cariad ffeindiodd fy mab.” Felly dyma Jacob yn cael rhyw gyda hi y noson honno.

17. A dyma Duw yn gwrando ar Lea, a dyma hi'n beichiogi ac yn cael ei phumed mab i Jacob.

18. “Mae Duw wedi rhoi gwobr i mi am roi fy morwyn i'm gŵr.” Felly dyma hi'n ei alw yn Issachar.

19. Yna dyma Lea'n beichiogi eto a rhoi chweched mab i Jacob.

20. “Mae Duw wedi rhoi rhodd hael i mi i'w chyflwyno i'm gŵr. Bydd yn fy nghyfri i'n sbesial, am fy mod i wedi rhoi chwe mab iddo.” Felly dyma hi'n galw'r plentyn yn Sabulon.

21. Wedyn dyma hi'n cael merch, a'i galw hi'n Dina.

22. Ond doedd Duw ddim wedi anghofio Rachel. Dyma fe'n gwrando ar ei gweddi a rhoi plant iddi.

23. Dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. “Mae Duw wedi symud y cywilydd oeddwn i'n deimlo,” meddai.

24. Galwodd hi'r plentyn yn Joseff. “Boed i'r ARGLWYDD roi mab arall i mi!” meddai.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 30