34. “Cytuno!” meddai Laban. “Gad i ni wneud beth rwyt ti'n ei awgrymu.”
35. Ond y diwrnod hwnnw dyma Laban yn symud y bychod geifr brith, a'r geifr brith (pob un oedd ag ychydig o wyn arnyn nhw). Symudodd y defaid duon hefyd, a rhoi'r anifeiliaid hynny i gyd i'w feibion i edrych ar eu holau.
36. Aeth â nhw daith tridiau i ffwrdd oddi wrth Jacob a gwnaeth i Jacob ofalu am weddill y praidd.
37. Wedyn dyma Jacob yn cymryd brigau gleision o goed poplys, almon a phlanwydden. Tynnodd beth o'r rhisgl i ffwrdd fel bod stribedi gwyn ar y gwiail.
38. Rhoddodd y gwiail o flaen y cafnau dŵr ble roedd y preiddiau'n dod i yfed. Roedd yr anifeiliaid yn paru pan fydden nhw'n dod i yfed.
39. Pan oedd y geifr yn bridio o flaen y gwiail, roedd y rhai bach fyddai'n cael eu geni yn rhai brith.
40. Roedd hefyd yn cymryd y defaid oedd yn gofyn hwrdd ac yn gwneud iddyn nhw wynebu'r anifeiliaid brithion a'r rhai duon ym mhraidd Laban. Roedd yn cadw ei braidd ei hun ar wahân, a ddim yn eu cymysgu â phraidd Laban.
41. Pan oedd yr anifeiliaid cryfion yn paru, roedd Jacob yn rhoi'r gwiail wrth y cafnau, er mwyn iddyn nhw fridio wrth ymyl y gwiail.
42. Ond doedd e ddim yn gosod y gwiail o flaen yr anifeiliaid gwan yn y praidd. Felly roedd yr anifeiliaid gwannaf yn perthyn i Laban, a'r rhai cryfaf yn perthyn i Jacob.
43. Felly daeth Jacob yn ddyn cyfoethog iawn. Roedd ganddo breiddiau mawr, gweision a morynion, camelod ac asynnod.