23. Dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. “Mae Duw wedi symud y cywilydd oeddwn i'n deimlo,” meddai.
24. Galwodd hi'r plentyn yn Joseff. “Boed i'r ARGLWYDD roi mab arall i mi!” meddai.
25. Ar ôl i Joseff gael ei eni i Rachel, dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Gad i mi fynd! Dw i eisiau mynd adre i'm gwlad fy hun.
26. Gad i mi fynd gyda'r gwragedd a'r plant wnes i weithio i ti amdanyn nhw. Ti'n gwybod mor galed dw i wedi gweithio i ti.”
27. Ond atebodd Laban, “Plîs wnei di ystyried aros yma? Dw i wedi dod yn gyfoethog, ac mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i am dy fod ti gyda mi.
28. Dywed faint o gyflog wyt ti eisiau, a gwna i ei dalu!”
29. A dyma Jacob yn dweud, “Ti'n gwybod fel dw i wedi gweithio i ti, ac mor dda mae'r anifeiliaid dw i'n gofalu amdanyn nhw wedi gwneud.
30. Ychydig oedd gen ti cyn i mi ddod. Ond bellach mae gen ti lot fawr. Mae'r ARGLWYDD wedi dy fendithio di ble bynnag roeddwn i'n gweithio. Mae'n bryd i mi wneud rhywbeth i'm teulu fy hun.”
31. “Dw i'n fodlon rhoi faint bynnag ti'n gofyn amdano,” meddai Laban. “Does dim rhaid i ti roi dim byd i mi,” meddai Jacob. “Ond os wna i edrych ar ôl dy breiddiau di a'u cadw nhw'n saff, dw i am i ti gytuno i un peth.
32. Gad i mi fynd trwyddyn nhw i gyd heddiw, a dewis pob dafad frith ac oen du, a'r un fath gyda'r geifr. Dyna fydd fy nghyflog i.
33. Byddi bob amser yn gallu gweld os ydw i wedi bod yn onest. Gelli archwilio fy nghyflog unrhyw bryd. Os bydd gen i afr sydd ddim yn frith, neu ddafad sydd ddim yn ddu, byddi di'n gwybod fy mod i wedi dwyn honno.”
34. “Cytuno!” meddai Laban. “Gad i ni wneud beth rwyt ti'n ei awgrymu.”