8. Roedd y plentyn bach yn tyfu. Pan stopiodd gael ei fwydo ar y fron dyma Abraham yn trefnu parti i ddathlu.
9. Sylwodd Sara ar y mab gafodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn gwneud hwyl am ben ei mab hi, Isaac
10. A dyma hi'n dweud wrth Abraham, “Dw i eisiau i ti gael gwared â'r gaethferch yna a'i mab. Fydd mab y gaethferch yna ddim yn cael rhan o etifeddiaeth fy mab i Isaac!”
11. Doedd Abraham ddim yn hapus o gwbl am y peth, achos roedd Ishmael hefyd yn fab iddo.
12. Ond dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Paid teimlo'n ddrwg am y bachgen a'i fam. Gwna bopeth mae Sara'n ei ddweud wrthyt. Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.
13. Ond bydda i'n gwneud mab y gaethferch yn genedl hefyd, am mai dy blentyn di ydy e.”
14. Felly dyma Abraham yn codi'n gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar ei gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gyda'i mab, ac aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba.
15. Pan oedd dim dŵr ar ôl yn y botel, dyma hi'n gadael y bachgen dan gysgod un o'r llwyni.
16. Wedyn aeth i eistedd ar ei phen ei hun reit bell oddi wrtho (tua ergyd bwa i ffwrdd). “Alla i ddim edrych ar y bachgen yn marw,” meddyliodd. Eisteddodd i lawr gyferbyn ag e, a dechrau crïo'n uchel.
17. Ond clywodd Duw lais y bachgen. A dyma angel Duw yn galw ar Hagar o'r nefoedd, a gofyn iddi, “Beth sy'n bod, Hagar? Paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed llais y bachgen.
18. Tyrd, cod y bachgen ar ei draed a'i ddal yn dynn. Dw i'n mynd i wneud cenedl fawr ohono.”