19. Yna dyma Duw yn gwneud iddi sylwi fod yna ffynnon yno. Dyma hi'n mynd i lenwi'r botel groen hefo dŵr, a rhoi peth i'r bachgen i'w yfed.
20. Roedd Duw yn gofalu am y bachgen wrth iddo dyfu. Roedd yn byw yn yr anialwch a daeth yn fwasaethwr gwych.
21. Roedd yn byw yn anialwch Paran. A dyma'i fam yn trefnu iddo briodi gwraig o wlad yr Aifft.
22. Tua'r adeg honno dyma Abimelech, a dyn o'r enw Pichol, pennaeth ei fyddin, yn cyfarfod gydag Abraham. “Mae'n amlwg fod Duw gyda ti bob amser,” meddai Abimelech.
23. “Dw i am i ti addo i mi o flaen Duw na fyddi di'n troi yn fy erbyn i na'm plant a'm pobl. Dw i wedi bod yn garedig atat ti, felly bydd di'n garedig ata i a phobl y wlad yma lle rwyt ti wedi setlo i fyw.”
24. “Dw i'n addo,” meddai Abraham.
25. Ond yna dyma Abraham yn gwneud cwyn am y ffynnon roedd gweision Abimelech wedi ei dwyn oddi arno.
26. “Dw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi gwneud hyn,” meddai Abimelech. “Beth bynnag, wnest ti ddim dweud wrtho i. Dyma'r cyntaf i mi glywed am y peth.”
27. Yna dyma Abraham yn rhoi defaid ac ychen i Abimelech a dyma'r ddau yn gwneud cytundeb.
28. Ond roedd Abraham wedi rhoi saith oen banw ar un ochr.
29. A gofynnodd Abimelech iddo, “Beth ydy'r saith oen banw yma wyt ti wedi eu gosod ar wahân?”
30. “Dw i eisiau i ti gymryd y saith oen banw yma gen i fel tystiolaeth mai fi sydd wedi cloddio'r ffynnon yma,” meddai Abraham.
31. Dyna pam y galwodd y lle yn Beersheba, am fod y ddau ohonyn nhw wedi mynd ar eu llw yno.
32. Ar ôl gwneud y cytundeb yn Beersheba, dyma Abimelech a Pichol, pennaeth ei fyddin, yn mynd yn ôl adre i wlad y Philistiaid.
33. Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beersheba. Addolodd yr ARGLWYDD yno, sef y Duw sy'n byw am byth.
34. Arhosodd Abraham yng ngwlad y Philistiaid am amser hir.