Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 18:7-24 beibl.net 2015 (BNET)

7. Wedyn dyma Abraham yn rhuthro allan at y gwartheg, ac yn dewis llo ifanc. Rhoddodd y llo i'w was i'w baratoi ar frys.

8. Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a'r cig wedi ei rostio a'i osod o'u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra roedden nhw'n bwyta.

9. “Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau.

10. A dyma un ohonyn nhw'n dweud, “Bydda i'n dod yn ôl yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd.

11. (Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.)

12. Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd Sara'n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i'n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae Abraham yn hen ddyn hefyd.”

13. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i'n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’

14. Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i'n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara'n cael mab.”

15. Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi'n ceisio gwadu'r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.”

16. Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw'n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o'r ffordd.

17. A dyma'r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i'n mynd i'w wneud oddi wrth Abraham?

18. Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwyddo.

19. Na, dw i'n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a pawb sydd gydag e i fyw fel mae'r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â'r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.”

20. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw'n gwneud pethau drwg iawn!

21. Dw i am fynd i lawr i weld os ydy'r cwbl sy'n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i'n gwybod wedyn.”

22. Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra roedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

23. Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â'r bobl dda gyda'r bobl ddrwg, fyddet ti?

24. Beth petai pum deg o bobl yno sy'n byw yn iawn. Fyddet ti'n dinistrio'r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna?

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 18