Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 14:11-19 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dyma'r byddinoedd oedd yn fuddugol yn cymryd eiddo Sodom a Gomorra, a'r bwyd oedd yno, cyn mynd i ffwrdd.

12. A dyma nhw'n cymryd Lot, nai Abram, a'i eiddo fe i gyd hefyd, gan fod Lot yn byw yn Sodom.

13. Ond dyma un oedd wedi llwyddo i ddianc yn mynd i ddweud wrth Abram yr Hebread beth oedd wedi digwydd. Roedd Abram yn byw wrth goed derw Mamre yr Amoriad, ac roedd Mamre a'i frodyr, Eshcol ac Aner, wedi ffurfio cynghrair gydag Abram.

14. Felly pan glywodd Abram fod ei nai wedi cael ei gymryd yn gaeth, casglodd ei filwyr, 318 o ddynion oedd wedi eu geni gyda'r clan. Aeth ar ôl y gelyn mor bell â Dan yn y gogledd.

15. Yn ystod y nos dyma Abram yn rhannu ei fyddin ac ymosod ar y gelyn. Aeth ar eu holau mor bell â Choba, sydd i'r gogledd o Damascus.

16. Cafodd bopeth roedden nhw wedi ei ddwyn yn ôl. Daeth â'i nai Lot a'i eiddo yn ôl hefyd, a'r gwragedd a gweddill y bobl oedd wedi cael eu dal.

17. Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn Cedorlaomer a'r brenhinoedd eraill, aeth Abram adre. Aeth brenin Sodom i'w groesawu yn Nyffryn Shafe (sef Dyffryn y Brenin).

18. A dyma Melchisedec, brenin Salem, yn mynd â bwyd a gwin iddo. Roedd Melchisedec yn offeiriad i'r Duw Goruchaf,

19. a dyma fe'n bendithio Abram fel hyn:“Boed i'r Duw Goruchaf,sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,dy fendithio Abram.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 14