Ond dyma un oedd wedi llwyddo i ddianc yn mynd i ddweud wrth Abram yr Hebread beth oedd wedi digwydd. Roedd Abram yn byw wrth goed derw Mamre yr Amoriad, ac roedd Mamre a'i frodyr, Eshcol ac Aner, wedi ffurfio cynghrair gydag Abram.