Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3:14-30 beibl.net 2015 (BNET)

14. Mae fy mhobl wedi fy ngwneud i'n destun sbort,ac yn fy ngwawdio i ar gân.

15. Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw;mae wedi llenwi fy mol gyda'r wermod.

16. Mae wedi gwneud i mi gnoi graean,ac wedi rhwbio fy ngwyneb yn y baw.

17. Does gen i ddim tawelwch meddwl;dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus.

18. Dywedais, “Alla i ddim cario mlaen.Dw i wedi colli pob gobaith yn yr ARGLWYDD.”

19. Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartreyn brofiad chwerw!

20. Mae ar fy meddwl drwy'r amser,ac mae'n fy ngwneud yn isel fy ysbryd.

21. Ond wedyn dw i'n cofio hyn,a dyma sy'n rhoi gobaith i mi:

22. Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd,a'i garedigrwydd e'n para am byth.

23. Maen nhw'n dod yn newydd bob bore.“ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!”

24. “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i,“felly ynddo fe dw i'n gobeithio.”

25. Mae'r ARGLWYDD yn dda i'r rhai sy'n ei drystio,ac i bwy bynnag sy'n troi ato am help.

26. Mae'n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgari'r ARGLWYDD ddod i'n hachub ni.

27. Mae'n beth da i rywun ddysgu ymostwngtra mae'n dal yn ifanc.

28. Dylai rhywun eistedd yn dawelpan mae'r ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e.

29. Dylai orwedd ar ei wyneb ar lawryn y gobaith y bydd yr ARGLWYDD yn ymyrryd.

30. Dylai droi'r foch arall i'r sawl sy'n ei daro,a bod yn fodlon cael ei gam-drin a'i enllibio.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 3