Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 1:13-21 beibl.net 2015 (BNET)

13. Anfonodd dân i lawr o'r nefoedd,oedd yn llosgi yn fy esgyrn.Gosododd rwyd i'm dal i,rhag i mi fynd ddim pellach.Mae wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun;dw i'n teimlo'n sâl drwy'r amser.

14. Mae ngwrthryfel wedi ei rwymo fel iau ar fy ngwddf.Duw ei hun sydd wedi ei rwymo.Mae e wedi gosod ei iau ar fy ngwar,a'm gwneud i yn hollol wan.Mae'r Meistr wedi fy rhoi yn nwylo'r gelyn,ac alla i wneud dim yn eu herbyn.

15. Mae'r Meistr wedi taflu allan y milwyr dewroedd yn fy amddiffyn.Mae wedi galw byddin i ymladd yn fy erbynac i sathru fy milwyr ifanc dan draed.Ydy, mae'r Meistr wedi sathru pobl Jwda annwylfel sathru grawnwin mewn gwinwasg.

16. Dyna pam dw i'n crïo.Dyna pam mae'r dagrau'n llifo.Does gen i neb wrth law i'm cysuro;neb i godi fy nghalon.Does gan fy mhlant ddim dyfodol.Mae'r gelyn wedi eu gorchfygu.

17. Mae Seion yn begian am help,ond does neb yno i'w chysuro hi.Mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyni'r gwledydd o'u cwmpas ymosod ar bobl Jacob.Mae Jerwsalem yn eu canol nhwfel peth aflan y dylid ei daflu i ffwrdd.

18. Yr ARGLWYDD sy'n iawn;dw i wedi tynnu'n groes i beth ddwedodd e.Gwrandwch arna i, bawb!Edrychwch gymaint dw i'n ei ddiodde.Mae fy merched a'm dynion ifancwedi cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.

19. Roeddwn i'n galw ar fy ffrindiau am helpond dyma nhw i gyd yn troi cefn arna i.Bu farw'r offeiriaid a'r arweinwyr yn y ddinaswrth edrych am fwyd i gadw eu hunain yn fyw.

20. ARGLWYDD, edrych mor ddrwg mae hi arna i!Dw i'n corddi tu mewn.Dw i'n torri fy nghalon,achos dw i'n gwybod mod i wedi gwrthryfela'n llwyr.Allan ar y stryd mae'r gelyn yn lladd;yn y tai mae pobl yn marw o newyn.

21. Maen nhw wedi fy nghlywed i'n griddfan,a does yna neb i'm cysuro.Mae fy ngelynion wedi clywed am fy helyntion,ac maen nhw'n falch dy fod wedi gwneud hyn i mi.Brysied y diwrnod rwyt wedi sôn amdano,pan gân nhw eu cosbi run fath â fi!

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 1