Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 40:20-33 beibl.net 2015 (BNET)

20. Yna dyma fe'n gosod Llechi'r Dystiolaeth yn yr Arch, cysylltu'r polion iddi a rhoi'r caead arni.

21. Wedyn mynd â'r Arch i'r Tabernacl a gosod llen y sgrîn o'i blaen, i guddio Arch y Dystiolaeth, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

22. Wedyn dyma fe'n gosod y bwrdd tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, ar ochr ogleddol y Tabernacl, o flaen y sgrîn.

23. A gosod y bara mewn trefn ar y bwrdd, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

24. Wedyn gosod y menora tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y Tabernacl.

25. Yna gosod y lampau yn eu lle arni, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

26. Wedyn rhoi'r allor aur (allor yr arogldarth) tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, o flaen y sgrîn,

27. a llosgi arogldarth persawrus arni, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

28. Wedyn gosod y sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl.

29. Rhoddodd yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl hefyd, sef Pabell Presenoldeb Duw. Yna cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau o rawn arni fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

30. Wedyn gosod y ddysgl fawr rhwng Pabell Presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi hi gyda dŵr ar gyfer ymolchi.

31. Byddai Moses ac Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed gyda'r dŵr ynddi.

32. Bydden nhw'n ymolchi bob tro roedden nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw neu'n mynd at yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

33. Wedyn dyma fe'n gosod yr iard o gwmpas y Tabernacl a'r allor, a rhoi'r sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard. Felly dyma Moses yn gorffen y gwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 40