Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 40:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rwyt i godi'r Tabernacl – Pabell presenoldeb Duw.

3. Rho Arch y dystiolaeth ynddi, gyda'r sgrîn o'i blaen yn cuddio'r Arch.

4. Yna dod â'r bwrdd i mewn, a gosod popeth mewn trefn arno. Wedyn y menora, a gosod ei lampau yn eu lle arni.

5. Rho'r allor aur (allor yr arogldarth) o flaen Arch y dystiolaeth, a sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl.

6. Yna gosod yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, Pabell presenoldeb Duw.

7. Rho'r ddysgl fawr rhwng Pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi gyda dŵr.

8. Yna gosod yr iard o'i chwmpas, a hongian llenni mynedfa'r iard.

9. “Wedyn cymer yr olew eneinio, a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth sydd ynddi, i'w cysegru a'u gwneud yn sanctaidd.

10. Eneinia'r allor i losgi'r offrymau a'i hoffer i gyd. Cysegra'r allor i'w gwneud hi'n gwbl sanctaidd.

11. Yna eneinia'r ddysgl fawr a'i stand, i'w chysegru hi.

12. “Wedyn rwyt i ddod ag Aaron a'i feibion at fynedfa Pabell presenoldeb Duw a'u golchi nhw gyda dŵr.

13. Arwisga fe gyda'r gwisgoedd cysegredig, a'i eneinio a'i gysegru i wasanaethu fel offeiriad i mi.

14. Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau,

15. a'u heneinio nhw fel gwnest ti eneinio eu tad, iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid i mi. Drwy eu heneinio ti'n rhoi'r cyfrifoldeb iddyn nhw o wasanaethu fel offeiriaid i mi ar hyd y cenedlaethau.”

16. Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 40