Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 23:18-29 beibl.net 2015 (BNET)

18. Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi ei aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A dydy'r brasder ddim i'w adael heb ei losgi dros nos.

19. Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw.Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.”

20. “Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, i'ch cadw chi'n saff pan fyddwch chi'n teithio, ac i'ch arwain i'r lle dw i wedi ei baratoi ar eich cyfer chi.

21. Gwrandwch arno, a gwnewch beth mae e'n ddweud. Peidiwch tynnu'n groes iddo achos fydd e ddim yn maddau i chi. Fi sydd yna ynddo fe.

22. Ond os gwnewch chi wrando arno, a gwneud beth dw i'n ddweud, bydda i'n ymladd yn erbyn y gelynion fydd yn codi yn eich erbyn chi.

23. Bydd fy angel yn eich arwain chi at yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hefiaid a Jebwsiaid, a bydda i'n eu dinistrio nhw'n llwyr.

24. Peidiwch plygu i lawr i addoli eu duwiau nhw, na dilyn eu harferion nhw. Dw i eisiau i chi eu dinistrio nhw'n llwyr, a malu eu colofnau cysegredig yn ddarnau.

25. Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, a bydd e'n rhoi bara i chi ei fwyta a dŵr i chi ei yfed, ac yn eich cadw chi'n iach.

26. Fydd yna ddim gwragedd sy'n methu cael plant, na gwragedd beichiog yn colli eu plant, a bydd pawb yn cael byw yn hir.

27. “Bydda i'n achosi braw wrth i bobl eich gweld chi'n dod. Byddai'n dinistrio'r bobloedd fyddwch chi'n dod ar eu traws. Byddan nhw'n dianc oddi wrthoch chi.

28. Bydda i'n achosi panig llwyr, ac yn gyrru'r Hefiaid, Canaaneaid a Hethiaid allan o'ch ffordd.

29. Ond fydd hyn ddim yn digwydd i gyd ar yr un pryd. Does gen i ddim eisiau i'r wlad droi'n anialwch, ac anifeiliaid gwylltion yn cymryd drosodd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 23