Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 23:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Paid hel straeon sydd ddim yn wir. Paid helpu pobl ddrwg drwy ddweud celwydd yn y llys.

2. Paid dilyn y dorf i wneud drwg. Paid rhoi tystiolaeth ffals sydd ddim ond yn cydfynd gyda beth mae pawb arall yn ei ddweud.

3. A paid dangos ffafriaeth at rywun mewn achos llys dim ond am ei fod yn dlawd.

4. Os wyt ti'n dod o hyd i darw neu asyn dy elyn yn crwydro, dos â'r anifail yn ôl i'w berchennog.

5. Os wyt ti'n gweld asyn rhywun sy'n dy gasáu di wedi syrthio dan ei faich, paid pasio heibio; dos i'w helpu i godi.

6. Paid gwrthod cyfiawnder i rywun mewn achos llys am ei fod yn dlawd.

7. Paid byth a cyhuddo pobl ar gam – rhag i rywun dieuog gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Bydda i'n cosbi'r rhai sy'n gwneud drwg.

8. Paid derbyn breib. Mae breib yn dallu'r sawl sy'n gweld yn glir, ac yn tanseilio achos pobl sy'n ddieuog.

9. Paid cam-drin mewnfudwr. Ti'n gwybod yn iawn sut deimlad ydy e – mewnfudwyr oeddech chi yn yr Aifft.

10. Rwyt i hau cnydau a chasglu'r cynhaeaf am chwe mlynedd.

11. Ond yna ar y seithfed flwyddyn mae'r tir i gael gorffwys, heb gael ei drin. Bydd y bobl dlawd yn cael casglu a bwyta beth bynnag sy'n tyfu ohono'i hun, a'r anifeiliaid gwylltion yn cael beth sy'n weddill. Gwna'r un peth gyda dy winllan a dy goed olewydd.

12. Rwyt i weithio am chwe diwrnod, a gorffwys ar y seithfed. Bydd yn rhoi cyfle i dy ychen a dy asyn orffwys, ac i'r caethweision sydd wedi eu geni yn dy dŷ a'r mewnfudwr sy'n gweithio i ti ymlacio.

13. Gwyliwch eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthoch chi. Peidiwch talu sylw i dduwiau eraill, na hyd yn oed eu henwi nhw!

14. Bob blwyddyn dych chi i gynnal tair gŵyl i mi.

15. Yn gyntaf, Gŵyl y Bara Croyw. Ar ddyddiau arbennig yn mis Abib byddwch yn dathlu dod allan o wlad yr Aifft. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, fel dwedais i bryd hynny. Does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu.

16. Yna Gŵyl y Cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â ffrwyth cyntaf eich cnydau i mi.Ac yn olaf, Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf, ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwch wedi gorffen casglu eich cnydau i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 23