Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 13:5-22 beibl.net 2015 (BNET)

5. A pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi – gwlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid, a Jebwsiaid; gwlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddwch yn dathlu ar y mis yma bob blwyddyn.

6. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo, yna ar y seithfed diwrnod cadw gŵyl i'r ARGLWYDD.

7. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. Does dim bara wedi ei wneud gyda burum, na hyd yn oed y burum ei hun i fod yn unman.

8. Yna dych chi i esbonio i'ch plant, ‘Dŷn ni'n gwneud hyn i gofio beth wnaeth yr ARGLWYDD droson ni pan ddaethon ni allan o'r Aifft.’

9. Bydd fel arwydd ar eich llaw neu farc ar eich talcen, yn eich atgoffa chi i siarad am beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddysgu i chi. Roedd e wedi defnyddio ei nerth i ddod â chi allan o'r Aifft.

10. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn ar yr amser iawn bob blwyddyn.

11. “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i wlad y Canaaneaid, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid chi,

12. rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi, yr ARGLWYDD sydd piau nhw.

13. Gellir prynu'n ôl pob asyn cyntaf i gael ei eni drwy roi oen neu fyn gafr yn ei le. Os nad ydy e'n cael ei brynu rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. A rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl hefyd.

14. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy ystyr hyn?’ dych chi i'w hateb, ‘yr ARGLWYDD wnaeth ddefnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft, lle roedden ni'n gaethion.

15. Roedd y Pharo yn gwrthod ein gollwng ni'n rhydd, felly dyma'r ARGLWYDD yn lladd pob mab hynaf a phob anifail gwryw oedd gyntaf i gael ei eni. Dyna pam dŷn ni'n aberthu pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni i'r ARGLWYDD. Ond dŷn ni'n prynu'n ôl pob mab sydd y cyntaf i gael ei eni.’

16. Bydd fel arwydd ar eich llaw neu rywbeth yn cael ei wisgo ar y talcen, i'ch atgoffa fod yr ARGLWYDD wedi defnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft.”

17. Pan wnaeth y Pharo adael i'r bobl fynd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw i wlad y Philistiaid, er mai dyna fyddai'r ffordd gyntaf. Doedd gan Dduw ddim eisiau i'r bobl newid eu meddyliau a mynd yn ôl i'r Aifft pan oedd y Philistiaid yn bygwth rhyfela yn eu herbyn nhw.

18. Felly dyma Duw yn mynd â'r bobl drwy'r anialwch at y Môr Coch. Aeth pobl Israel allan o'r Aifft fel byddin yn ei rhengoedd.

19. Dyma Moses yn mynd ag esgyrn Joseff gyda nhw. Roedd Joseff wedi gwneud i bobl Israel addo, “Dw i'n gwybod y bydd Duw yn gofalu amdanoch chi. Dw i eisiau i chi fynd â'm hesgyrn i gyda chi o'r lle yma.”

20. Dyma nhw'n gadael Swccoth ac yn gwersylla yn Etham wrth ymyl yr anialwch.

21. Roedd yr ARGLWYDD yn arwain y ffordd mewn colofn o niwl yn ystod y dydd, a cholofn o dân yn y nos. Felly roedden nhw'n gallu teithio yn y dydd neu'r nos.

22. Roedd y golofn o niwl gyda nhw bob amser yn y dydd, a'r golofn o dân yn y nos.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 13