Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 12:4-22 beibl.net 2015 (BNET)

4. Os ydy'r teulu'n rhy fach i fwyta'r anifail cyfan, dylen nhw ei rannu gyda'u cymdogion. Mae'n dibynnu faint o bobl sydd yn y teulu, a faint mae pawb yn gallu ei fwyta.

5. Rhaid iddo fod yn anifail gwryw, blwydd oed, heb ddim o'i le arno. Gall fod yn oen neu'n fyn gafr.

6. Rhaid ei gadw ar wahân hyd y pedwerydd ar ddeg o'r mis. Yna, y noson honno, ar ôl i'r haul fachlud, bydd pobl Israel i gyd yn lladd yr oen neu'r myn gafr sydd ganddyn nhw.

7. Wedyn maen nhw i gymryd peth o'r gwaed a'i roi ar ochrau ac ar dop ffrâm y drws i'r tŷ lle byddan nhw'n ei fwyta.

8. Rhaid iddyn nhw ei rostio y noson honno, a'i fwyta gyda bara heb furum ynddo a llysiau chwerw.

9. Rhaid rhostio'r anifail cyfan, gyda'i ben, ei goesau a'i berfeddion. Peidiwch bwyta'r cig os nad ydy e wedi ei goginio'n iawn, neu dim ond wedi ei ferwi.

10. Does dim ohono i fod wedi ei adael ar ôl y bore wedyn. Rhaid i unrhyw sbarion gael eu llosgi.

11. “A dyma sut mae i gael ei fwyta: Rhaid i chi fod wedi gwisgo fel petaech ar fin mynd ar daith, gyda'ch sandalau ar eich traed a'ch ffon gerdded yn eich llaw. Rhaid ei fwyta ar frys. Pasg yr ARGLWYDD ydy e.

12. Dw i'n mynd i fynd trwy wlad yr Aifft y noson honno, a taro pob mab hynaf, a phob anifail gwryw oedd yn gyntaf i gael ei eni. Dw i'n mynd i farnu ‛duwiau‛ yr Aifft i gyd! Fi ydy'r ARGLWYDD.

13. Mae'r gwaed fydd ar ffrâm drysau eich tai chi yn arwydd i chi. Pan fydda i'n gweld y gwaed, bydda i'n pasio heibio i chi. Fydd y pla yma ddim yn eich lladd chi pan fydda i'n taro gwlad yr Aifft.

14. Bydd yn ddiwrnod i'w gofio. Byddwch yn ei ddathlu bob blwyddyn drwy gadw gŵyl i'r ARGLWYDD – dyna fydd y drefn bob amser.

15. “Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. Ar y diwrnod cyntaf rhaid cael gwared ag unrhyw beth yn y tŷ sydd â burum ynddo. Yn ystod y saith diwrnod yna, bydd unrhyw un sydd yn bwyta bara wedi ei wneud gyda burum yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.

16. “Bydd cyfarfodydd arbennig i addoli yn cael eu cynnal ar y diwrnod cyntaf ac ar y seithfed diwrnod. A does dim gwaith i gael ei wneud ar y dyddiau hynny, ar wahân i baratoi bwyd i bawb.

17. “Dyna sut ydych chi i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. Dyma'r diwrnod wnes i eich arwain chi allan o'r Aifft, ac felly bydd yn rhan o'r drefn bob amser eich bod yn dathlu'r digwyddiad yn flynyddol.

18. Dim ond bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta o fachlud haul ar y pedwerydd ar ddeg hyd fachlud haul ar yr unfed ar hugain o'r mis cyntaf.

19. Does dim burum i fod yn eich tai o gwbl am saith diwrnod. Os bydd unrhyw un (un o bobl Israel neu rywun o'r tu allan) yn bwyta rhywbeth wedi ei wneud gyda burum, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.

20. Peidiwch bwyta unrhyw beth wedi ei wneud gyda burum – dim ond bara heb furum ynddo.”

21. Yna dyma Moses yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, ac yn dweud wrthyn nhw, “Ewch i ddewis oen neu fyn gafr i'ch teulu, i'w lladd fel aberth y Pasg.

22. Rhoi gwaed yr anifail mewn powlen, yna cymryd swp o frigau isop a'i dipio yn y gwaed a'i frwsio ar dop ac ochrau ffrâm y drws. Yna does neb i fynd allan o'r tŷ tan y bore wedyn.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 12