Bydd yr ARGLWYDD yn mynd trwy wlad yr Aifft yn taro'r bobl. Ond pan fydd e'n gweld y gwaed ar ffrâm drws unrhyw dŷ, bydd yn pasio heibio'r tŷ hwnnw. Fydd e ddim yn gadael i farwolaeth ddod i mewn a taro eich teulu chi.