Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 12:15-24 beibl.net 2015 (BNET)

15. “Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. Ar y diwrnod cyntaf rhaid cael gwared ag unrhyw beth yn y tŷ sydd â burum ynddo. Yn ystod y saith diwrnod yna, bydd unrhyw un sydd yn bwyta bara wedi ei wneud gyda burum yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.

16. “Bydd cyfarfodydd arbennig i addoli yn cael eu cynnal ar y diwrnod cyntaf ac ar y seithfed diwrnod. A does dim gwaith i gael ei wneud ar y dyddiau hynny, ar wahân i baratoi bwyd i bawb.

17. “Dyna sut ydych chi i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. Dyma'r diwrnod wnes i eich arwain chi allan o'r Aifft, ac felly bydd yn rhan o'r drefn bob amser eich bod yn dathlu'r digwyddiad yn flynyddol.

18. Dim ond bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta o fachlud haul ar y pedwerydd ar ddeg hyd fachlud haul ar yr unfed ar hugain o'r mis cyntaf.

19. Does dim burum i fod yn eich tai o gwbl am saith diwrnod. Os bydd unrhyw un (un o bobl Israel neu rywun o'r tu allan) yn bwyta rhywbeth wedi ei wneud gyda burum, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.

20. Peidiwch bwyta unrhyw beth wedi ei wneud gyda burum – dim ond bara heb furum ynddo.”

21. Yna dyma Moses yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, ac yn dweud wrthyn nhw, “Ewch i ddewis oen neu fyn gafr i'ch teulu, i'w lladd fel aberth y Pasg.

22. Rhoi gwaed yr anifail mewn powlen, yna cymryd swp o frigau isop a'i dipio yn y gwaed a'i frwsio ar dop ac ochrau ffrâm y drws. Yna does neb i fynd allan o'r tŷ tan y bore wedyn.

23. Bydd yr ARGLWYDD yn mynd trwy wlad yr Aifft yn taro'r bobl. Ond pan fydd e'n gweld y gwaed ar ffrâm drws unrhyw dŷ, bydd yn pasio heibio'r tŷ hwnnw. Fydd e ddim yn gadael i farwolaeth ddod i mewn a taro eich teulu chi.

24. “Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch plant yn gwneud hyn. Dyna fydd y drefn bob amser.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 12