Hen Destament

Testament Newydd

Esther 8:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. A nawr cewch chi ysgrifennu ar fy rhan beth bynnag dych chi'n deimlo sy'n iawn i'w wneud gyda'r Iddewon, a selio'r ddogfen gyda fy sêl-fodrwy i. Mae'n amhosib newid deddf sydd wedi ei hysgrifennu yn enw'r brenin, ac wedi ei selio gyda'i sêl-fodrwy e.”

9. Felly ar y trydydd ar hugain o'r trydydd mis, sef Sifan, dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma nhw'n ysgrifennu popeth roedd Mordecai yn ei orchymyn – at yr Iddewon, ac at raglawiaid, llywodraethwyr a swyddogion pob talaith o India i Affrica (cant dau ddeg saith o daleithiau i gyd). Roedd llythyr pob talaith yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno, a'r llythyr at yr Iddewon yn eu hiaith nhw.

10. Roedd Mordecai yn ysgrifennu ar ran y Brenin Ahasferus, a cafodd y llythyrau eu selio gyda sêl-fodrwy y brenin. Yna dyma'r llythyrau yn cael eu dosbarthu gan negeswyr oedd yn marchogaeth y ceffylau cyflymaf yn y stablau brenhinol.

11. Rhoddodd y brenin ganiatád i'r Iddewon ddod at ei gilydd i amddiffyn eu hunain. Roedden nhw'n cael lladd a dinistrio milwyr unrhyw dalaith oedd yn ymosod arnyn nhw, lladd eu gwragedd a'u plant, a cymryd eu heiddo oddi arnyn nhw.

12. Roedd hyn i gyd i ddigwydd drwy bob talaith oedd dan reolaeth y Brenin Ahasferus, ar un diwrnod penodol, sef y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (Mis Adar).

13. Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth. Wedyn byddai'r Iddewon yn barod ar gyfer y diwrnod hwnnw, i ddial ar eu gelynion.

14. Dyma'r negeswyr yn rhuthro allan ar frys, ar gefn ceffylau o'r stablau brenhinol, a gorchymyn y brenin ganddyn nhw. Cafodd y gyfraith ei chyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan hefyd.

15. Pan aeth Mordecai allan oddi wrth y brenin, roedd wedi ei arwisgo mewn dillad brenhinol o borffor a gwyn. Roedd twrban euraid mawr ar ei ben, a mantell o liain main porffor ar ei ysgwyddau. Roedd pawb yn Shwshan yn dathlu,

16. ac roedd yr Iddewon wrth eu boddau ac yn cael eu parchu gan bawb.

17. Yn y taleithiau a'r trefi i gyd lle roedd gorchymyn y brenin wedi ei gyhoeddi, roedd yr Iddewon wedi cymryd gwyliau i ddathlu a gwledda. Ac roedd llawer o bobl eraill yn honni eu bod wedi troi'n Iddewon, am fod ganddyn nhw gymaint o ofn beth fyddai'r Iddewon yn ei wneud iddyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 8