Hen Destament

Testament Newydd

Esther 4:5-14 beibl.net 2015 (BNET)

5. Felly dyma Esther yn galw am Hathach, un o ystafellyddion y brenin oedd wedi ei benodi i ofalu amdani, a dweud wrtho am fynd i ddarganfod beth oedd yn bod ar Mordecai.

6. Dyma Hathach yn mynd i weld Mordecai yn y sgwâr tu allan i giât y palas.

7. A dyma Mordecai yn dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd, a faint o arian oedd Haman wedi addo ei dalu i'r trysordy brenhinol petai'r Iddewon yn cael eu lladd.

8. A dyma fe'n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o'r gorchymyn oedd wedi ei ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl.

9. Felly dyma Hathach yn mynd yn ôl a rhannu gydag Esther beth oedd Mordecai eisiau iddi ei wneud.

10. Yna dyma Esther yn anfon Hathach yn ôl at Mordecai i ddweud wrtho,

11. “Mae swyddogion a gweision y brenin drwy'r taleithiau i gyd yn gwybod beth mae'r gyfraith yn ddweud fydd yn digwydd i unrhyw un sy'n mynd i weld y brenin heb gael gwahoddiad – mae'r person hwnnw i farw, oni bai fod y brenin yn arbed ei fywyd drwy estyn y deyrnwialen aur ato fe neu hi. Dw i ddim wedi cael gwahoddiad i fynd i weld y brenin ers mis cyfan!”

12. Pan ddwedodd Hathach wrth Mordecai beth oedd Esther yn ei ddweud,

13. dyma Mordecai yn anfon yr ateb yma yn ôl: “Paid meddwl am funud y byddi di'n osgoi cael dy ladd fel pob Iddew arall am dy fod ti'n byw yn y palas.

14. Os byddi di'n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a teulu dy dad yn marw. Falle mai dyma'n union pam rwyt ti wedi dod yn rhan o'r teulu brenhinol ar yr adeg yma!”

Darllenwch bennod gyflawn Esther 4