1. Pan glywodd Mordecai am y peth, dyma fe'n rhwygo ei ddillad, gwisgo sachliain a rhoi lludw ar ei ben. Yna dyma fe'n mynd drwy'r ddinas yn gweiddi'n uchel mewn llais chwerw.
2. Ond aeth e ddim pellach na giât y palas – doedd neb yn cael mynd trwy'r giât honno yn gwisgo sachliain.
3. Drwy'r taleithiau i gyd, ble bynnag roedd datganiad a chyfraith y brenin yn cael ei chyhoeddi, roedd yr Iddewon yn galaru, yn ymprydio ac yn wylo. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw'n gorwedd i gysgu ar sachliain a lludw.
4. Pan ddwedodd morynion ac ystafellyddion Esther wrthi am Mordecai, roedd hi wedi ypsetio'n ofnadwy. Dyma hi'n anfon dillad i Mordecai eu gwisgo yn lle'r sachliain, ond roedd yn gwrthod eu cymryd.
5. Felly dyma Esther yn galw am Hathach, un o ystafellyddion y brenin oedd wedi ei benodi i ofalu amdani, a dweud wrtho am fynd i ddarganfod beth oedd yn bod ar Mordecai.
6. Dyma Hathach yn mynd i weld Mordecai yn y sgwâr tu allan i giât y palas.
7. A dyma Mordecai yn dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd, a faint o arian oedd Haman wedi addo ei dalu i'r trysordy brenhinol petai'r Iddewon yn cael eu lladd.
8. A dyma fe'n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o'r gorchymyn oedd wedi ei ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl.
9. Felly dyma Hathach yn mynd yn ôl a rhannu gydag Esther beth oedd Mordecai eisiau iddi ei wneud.
10. Yna dyma Esther yn anfon Hathach yn ôl at Mordecai i ddweud wrtho,
11. “Mae swyddogion a gweision y brenin drwy'r taleithiau i gyd yn gwybod beth mae'r gyfraith yn ddweud fydd yn digwydd i unrhyw un sy'n mynd i weld y brenin heb gael gwahoddiad – mae'r person hwnnw i farw, oni bai fod y brenin yn arbed ei fywyd drwy estyn y deyrnwialen aur ato fe neu hi. Dw i ddim wedi cael gwahoddiad i fynd i weld y brenin ers mis cyfan!”