1. Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw.
2. Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Seraia, Reëlaia, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Rechwm a Baana.Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:
3. Teulu Parosh: 2,172
4. Teulu Sheffateia: 372
5. Teulu Arach: 775
6. Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,812
7. Teulu Elam: 1,254