Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esra 2 beibl.net 2015 (BNET)

Rhestr o'r bobl ddaeth yn ôl

1. Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw.

2. Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Seraia, Reëlaia, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Rechwm a Baana.Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:

3. Teulu Parosh: 2,172

4. Teulu Sheffateia: 372

5. Teulu Arach: 775

6. Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,812

7. Teulu Elam: 1,254

8. Teulu Sattw: 945

9. Teulu Saccai: 760

10. Teulu Bani: 642

11. Teulu Bebai: 623

12. Teulu Asgad: 1,222

13. Teulu Adonicam: 666

14. Teulu Bigfai: 2,056

15. Teulu Adin: 454

16. Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98

17. Teulu Betsai: 323

18. Teulu Iora: 112

19. Teulu Chashŵm: 223

20. Teulu Gibbar: 95

21. Dynion Bethlehem: 123

22. Dynion Netoffa: 56

23. Dynion Anathoth: 128

24. Dynion Asmafeth: 42

25. Dynion Ciriath-iearim, Ceffira a Beëroth: 743

26. Dynion Rama a Geba: 621

27. Dynion Michmas: 122

28. Dynion Bethel ac Ai: 223

29. Pobl Nebo: 52

30. Pobl Magbish: 156

31. Pobl yr Elam arall: 1,254

32. Pobl Charîm: 320

33. Pobl Lod, Hadid ac Ono: 725

34. Pobl Jericho: 345

35. Pobl Sena'a: 3,630

36. Yr offeiriaid:Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973

37. Teulu Immer: 1,052

38. Teulu Pashchwr: 1,247

39. Teulu Charîm: 1,017

40. Y Lefiaid:Teulu Ieshŵa a Cadmiel (o deulu Hodafia): 74

41. Y cantorion:Teulu Asaff: 128

42. Gofalwyr y giatiau:Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 139

43. Gweision y deml:Teulu SichaTeulu ChaswffaTeulu Tabbaoth

44. Teulu CerosTeulu SïahaTeulu Padon

45. Teulu LebanaTeulu HagabaTeulu Accwf

46. Teulu HagabTeulu ShalmaiTeulu Chanan

47. Teulu GidelTeulu GacharTeulu Reaia

48. Teulu ResinTeulu NecodaTeulu Gassam

49. Teulu WssaTeulu PaseachTeulu Besai

50. Teulu AsnaTeulu MewnimTeulu Neffwsîm

51. Teulu BacbwcTeulu ChacwffaTeulu Charchwr

52. Teulu BatslwthTeulu MechidaTeulu Charsha

53. Teulu BarcosTeulu SiseraTeulu Temach

54. Teulu NetsïachTeulu Chatiffa.

55. Teuluoedd gweision Solomon:Teulu SotaiTeulu HassofferethTeulu Perwda

56. Teulu JalaTeulu DarconTeulu Gidel

57. Teulu SheffateiaTeulu ChattilTeulu Pochereth-hatsbaîmTeulu Ami

58. Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.

59. Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer hefyd (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):

60. Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652

61. Wedyn teuluoedd yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).

62. Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau ac wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid.

63. Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.

64. Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360,

65. (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw. Roedd yna 200 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd).

66. Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod,

67. 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.

68. Pan gyrhaeddon nhw deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, dyma rhai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu'n hael tuag at ailadeiladu teml Dduw ar ei safle wreiddiol.

69. Rhoddodd pob un gymaint ag y gallen nhw ei fforddio tuag at y gwaith: tua 500 cilogram o aur, 2,800 cilogram arian, a 100 o wisgoedd i'r offeiriaid.

70. Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.