Hen Destament

Testament Newydd

Esra 10:6-19 beibl.net 2015 (BNET)

6. Yna dyma Esra yn gadael y deml, a mynd i aros yn ystafell Iehochanan fab Eliashif. Wnaeth e ddim bwyta na hyd yn oed yfed dŵr tra roedd e yno; roedd e mor drist fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon.

7. Yna cafodd cyhoeddiad ei anfon allan drwy Jwda a Jerwsalem, yn galw ar bawb ddaeth yn ôl o'r gaethglud i ddod at ei gilydd yn Jerwsalem.

8. Byddai'r rhai oedd ddim yno o fewn tri diwrnod yn colli eu heiddo i gyd. Dyna oedd penderfyniad y swyddogion a'r arweinwyr. Byddai'r bobl hynny yn cael eu diarddel o gymdeithas y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud.

9. Felly daeth pawb o Jwda a Benjamin at ei gilydd i Jerwsalem o fewn tri diwrnod (ar yr ugeinfed diwrnod o'r nawfed mis). Roedden nhw i gyd yn sefyll yn y sgwâr o flaen teml yr ARGLWYDD. Roedd pawb yn nerfus iawn, ac yn crynu yn y glaw.

10. Yna dyma Esra'r offeiriad yn sefyll i'w hannerch nhw, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon, yn cymryd merched y bobloedd eraill yn wragedd. Mae hyn wedi gwneud Israel yn fwy euog fyth o flaen Duw!

11. Mae'n bryd i chi anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, a gwneud beth mae e eisiau. Rhaid i chi dorri pob cysylltiad gyda'r bobl a'r gwragedd paganaidd yma.”

12. A dyma pawb oedd yno yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, rhaid i ni wneud fel ti'n dweud!

13. Ond mae yna lot fawr ohonon ni, ac mae'n glawio'n drwm. Allwn ni ddim sefyll allan yma. Dydy'r mater ddim yn mynd i gael ei setlo mewn rhyw ddiwrnod neu ddau, am fod gormod ohonon ni wedi pechu yn hyn o beth.

14. Gall y penaethiaid weithredu ar ran pawb. Wedyn gosod dyddiad penodol i bob tref, i bawb yn y dref honno sydd wedi cymryd gwragedd o blith y bobloedd eraill, i ddod yma. Gall arweinwyr a barnwyr y dref ddod gyda nhw, nes bydd Duw ddim mor ffyrnig hefo ni am beth wnaethon ni.”

15. (Yr unig rai oedd yn erbyn y cynllun yma oedd Jonathan fab Asahel a Iachseia fab Ticfa, gyda cefnogaeth Meshwlam a Shabbethai y Lefiad.)

16. Felly aeth y bobl yn eu blaenau gyda'r cynllun. Dyma Esra'r offeiriad yn dewis dynion oedd yn arweinwyr yn eu clan, a'u rhestru nhw wrth eu henwau. A dyma nhw'n dechrau mynd ati i ddelio gyda'r mater ar ddiwrnod cynta'r degfed mis.

17. Roedd hi'n ddiwrnod cynta'r flwyddyn ganlynol erbyn iddyn nhw orffen delio gyda'r holl ddynion oedd wedi priodi gwragedd paganaidd.

18. Dyma restr o'r offeiriaid oedd wedi cymryd gwragedd paganaidd:O deulu Ieshŵa fab Iotsadac a'i frodyr: Maaseia, Elieser, Iarîf a Gedaleia.

19. (Dyma nhw'n addo gyrru eu gwragedd i ffwrdd, ac yn cyflwyno hwrdd yn offrwm i gyfaddef eu bai.)

Darllenwch bennod gyflawn Esra 10