Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 7:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn y cyfnod pan oedd Ahas (mab Jotham ac ŵyr i Wseia) yn frenin ar Jwda, dyma Resin (brenin Syria) a Pecach fab Remaleia (brenin Israel), yn ymosod ar Jerwsalem; ond wnaethon nhw ddim llwyddo i'w gorchfygu hi.

2. Pan ddaeth y newyddion i balas brenhinol Dafydd fod Syria ac Effraim mewn cynghrair, roedd y brenin a'r bobl wedi cynhyrfu. Roedden nhw fel coed yn y goedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.

3. Felly dwedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos hefo dy fab Shear-iashŵf i gyfarfod ag Ahas wrth derfyn y sianel ddŵr sy'n dod o'r Llyn Uchaf, ar ffordd Maes y Golchwyr.

4. Dywed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio – dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’

5. Mae'r Syriaid – hefo Effraim a mab Remaleia – wedi cynllwynio yn dy erbyn di, a dweud,

6. ‘Gadewch i ni ymosod ar Jwda, codi ofn arni a'i gorchfygu. Yna gallwn osod mab Tafél yn frenin arni.’

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 7