Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 57:2-13 beibl.net 2015 (BNET)

2. Bydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawnyn profi heddwch,ac yn cael gorffwys ar eu gwlâu.

3. Dewch yma, chi blant y rhai sy'n dweud ffortiwn;disgynyddion y rhai sy'n godinebu ac yn puteinio!

4. Ar ben bwy ydych chi'n gwneud sbort?Ar bwy ydych chi'n gwneud ystumiauac yn tynnu tafod?Dych chi'n blant i rebeliaid,yn ddisgynyddion rhai sy'n dweud celwydd;

5. a'ch nwydau rhywiol yn llosgi wrth addolidan bob coeden ddeiliog.Chi sy'n aberthu plant yn y dyffrynnoedd,ac yn hafnau'r creigiau.

6. Cerrig llithrig yr hafnau ydy dy gyfran di;mentra di gyda nhw!Iddyn nhw rwyt ti wedi tywallt dy offrwm o ddiod,a chyflwyno dy offrwm o fwyd.Ddylwn i ymatal rhag dial yn wyneb hyn i gyd?

7. Rwyt yn gwneud dy welyar ben pob mynydd uchel;ac yn mynd yno i gyflwyno dy aberthau.

8. Er fod arwydd wedi ei osodtu ôl i ffrâm drws dy dŷ,ti wedi ngadael ia gorwedd yn agored ar dy wely.Ti wedi ymrwymo dy hun i'r duwiau,wedi mwynhau gorweddian yn noetha dewis dilyn dy chwantau.

9. Yna mynd i lawr i weld y breningyda rhoddion o olew a llwyth o bersawr.Anfonaist negeswyr at un oedd yn bell i ffwrdd,hyd yn oed i Annwn!

10. Er fod yr holl deithio'n dy flino,wnest ti ddim rhoi i fyny!Llwyddaist i gael digon o egnii ddal ati.

11. Pwy oedd yn dy boenia gwneud i ti ofni a dweud celwydd?Doeddet ti ddim yn meddwl amdana inac yn cymryd unrhyw sylw ohona i.Ai'r rheswm wyt ti ddim yn fy ofni iydy mod i wedi bod yn ddistaw mor hir?

12. Gwna i ddweud beth dw i'n feddwl o dy weithredoedd da:fydd y rheiny ddim yn gallu dy helpu!

13. A fydd dy gasgliad o dduwiau ddim yn dy helpupan fyddi di'n gweiddi –does dim bywyd nag anadl ynddyn nhw!Ond bydd y rhai sy'n troi ata i yn meddiannu'r tirac yn etifeddu fy mynydd cysegredig i.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 57