Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 52:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion!Gwisga dy ddillad hardd,Jerwsalem, y ddinas sanctaidd!Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedubyth yn dod i mewn i ti eto.

2. Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat,eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem!Tynna'r gefynnau oddi am dy wddfSeion, y gaethferch hardd!

3. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Cawsoch eich gwerthu am ddim,a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.”

4. Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft;ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw.

5. Felly, beth sy'n digwydd yma?”—meddai'r ARGLWYDD—“Mae fy mhobl wedi eu cipio i ffwrdd am ddim rheswm,ac mae'r rhai sy'n eu rheoli yn gwawdio.”—meddai'r ARGLWYDD—“Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy'r amser.

6. Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod,ac yn gwybod mai fi ydy'r un sy'n dweud,‘Dyma fi!’”

7. Mae mor wych gweld negesyddyn dod dros y mynyddoeddyn cyhoeddi fod heddwch.Mae ganddo newyddion da –mae e'n cyhoeddi fod achubiaethac yn dweud wrth Seion,“Dy Dduw di sy'n teyrnasu!”

8. Clyw! Mae'r rhai sy'n gwylio dy furiau yn galw;maen nhw'n gweiddi'n llawen gyda'i gilydd!Maen nhw'n gweld, o flaen eu llygaid,yr ARGLWYDD yn dod yn ôl i Seion.

9. Gwaeddwch chithau hefyd,adfeilion Jerwsalem!Mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei boblac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd.

10. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei nerthi'r cenhedloedd i gyd,ac mae pobl o ben draw'r byd yn gweldein Duw ni yn achub.

11. Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi!Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan!Chi sy'n cario llestri'r ARGLWYDDCadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 52