Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 51:6-21 beibl.net 2015 (BNET)

6. Edrychwch i fyny i'r awyr,ac edrychwch ar y ddaear islaw:Bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg,y ddaear yn treulio fel dillad,a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed,ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth,a'm cyfiawnder ddim yn pallu.

7. Gwrandwch arna i, chi sy'n gwybod beth sy'n iawn,y bobl sydd â'm cyfraith yn eu calonnau.Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi,na digalonni pan maen nhw'n gwneud sbort.

8. Bydd gwyfyn yn eu bwyta fel dilledyn,a'r pryf dillad yn eu llyncu fel gwlân.Bydd fy nghyfiawnder yn para am byth,a'm hachubiaeth o un genhedlaeth i'r llall.”

9. Deffra! Deffra! Dangos dy nertho fraich yr ARGLWYDD!Deffra, fel yn yr hen ddyddiau,yn yr amser a fu!Onid ti dorrodd Rahab yn ddarnau,a thrywanu'r ddraig?

10. Onid ti sychodd y môr,a dŵr y dyfnder mawr?Onid ti wnaeth ddyfnder y môryn ffordd i'r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni?

11. Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhyddyn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!Bydd y llawenydd sy'n para am bythyn goron ar eu pennau!Byddan nhw'n cael eu gwefreiddiogan hwyl a gorfoledd,am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.

12. “Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi!Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol –pobl feidrol sydd fel glaswellt?

13. Wyt ti wedi anghofio'r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di?Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfaeni'r ddaear!Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amserfod y gormeswr wedi gwylltioac yn barod i dy daro di i lawr?Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?

14. Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys!Fydd e ddim yn marw yn ei gellnac yn llwgu.

15. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw disy'n corddi'r môr yn donnau mawrion– yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy fy enw i.

16. Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannuac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw;Fi roddodd yr awyr yn ei le a gwneud y ddaear yn gadarn!A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’”

17. Deffra! Deffra!Saf ar dy draed, Jerwsalem –ti sydd wedi yfed o'r gwpanroddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid!Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod!

18. Does yr un o'r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain;does dim un o'r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw.

19. Mae dau beth wedi digwydd i ti:llanast a dinistr – pwy sy'n cydymdeimlo gyda ti?newyn a'r cleddyf – sut alla i dy gysuro di?

20. Mae dy blant wedi llewygu!Maen nhw'n gorwedd ar gornel pob stryd,fel antelop wedi ei ddal mewn rhwyd –yn feddw gan ddigofaint yr ARGLWYDD,wedi eu ceryddu gan dy Dduw.

21. Felly, gwrando ar hyn, ti'r un druenussydd wedi meddwi, ond ddim ar win!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 51