Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 50:4-11 beibl.net 2015 (BNET)

4. Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD,dafod i mi siarad ar ei ran;dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig.Bob bore mae'n fy neffro i,ac yn fy nghael i wrandofel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu.

5. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi fy nysgu i wrando,a dw i ddim wedi gwrthryfelana throi fy nghefn arno.

6. Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio,a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf.Wnes i ddim cuddio fy wyneboddi wrth yr amarch a'r poeri.

7. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu –felly dw i ddim yn derbyn yr amarch.Dw i'n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint,a dw i'n gwybod na fydda i'n cywilyddio.

8. Mae'r un sy'n fy amddiffyn i wrth ymyl –Pwy sy'n meiddio ymladd yn fy erbyn?Gadewch i ni wynebu'n gilydd!Pwy sydd am fy ngwrthwynebu i?Gadewch iddo ddod ata i!

9. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i –Pwy sy'n mynd i'm cael yn euog o wneud drwg?Edrychwch! Byddan nhw'n treulio fel dilledyn;bydd gwyfyn yn eu difetha nhw.

10. Pwy ohonoch sy'n parchu'r ARGLWYDD?Pwy sy'n gwrando ar lais ei was? –Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew,heb olau ganddo o gwbl,drystio'r ARGLWYDDa phwyso ar ei Dduw.

11. Ond chi sy'n cynnau'ch tân eich hunainac yn paratoi ffaglau –cerddwch yng ngolau fflam eich tâna'r ffaglau ydych wedi eu tanio!Dyma fydd yn dod i chi o'm llaw i:Byddwch chi'n gorwedd i gael eich poenydio!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 50