Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 46:7-10 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau,ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed,a dydy e ddim yn gallu symud!Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb;a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i trafferthion!

8. Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith!Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr!

9. Cofiwch beth dw i wedi ei wneud yn y gorffennol.Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod.Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi.

10. Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd,ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd;Dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 46