Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 44:2-11 beibl.net 2015 (BNET)

2. Dyma mae'r ARGLWYDD a'th wnaeth di yn ei ddweud – yr un wnaeth dy siapio di yn y groth; yr un sy'n dy helpu:“Paid bod ag ofn, Jacob, fy ngwas,Israel, yr un dw i wedi ei dewis.

3. Fel dw i'n tywallt dŵr ar y ddaear sychedig,a glaw ar dir sych,bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar dy ddisgynyddion di,a'm bendith ar dy blant.

4. Byddan nhw'n tyfu fel glaswellt,ac fel coed helyg ar lan ffrydiau o ddŵr.

5. Bydd un yn dweud, ‘Dw i'n perthyn i'r ARGLWYDD,’un arall yn cymryd yr enw ‘Jacob,’ac un arall eto yn ysgrifennu ar ei law ‘eiddo'r ARGLWYDD’ac yn galw ei hun yn ‘Israel.’”

6. Dyma mae'r ARGLWYDD, Brenin Israel, yn ei ddweud – yr un sy'n eu rhyddhau nhw, yr ARGLWYDD holl-bwerus:“Fi ydy'r cyntaf, a fi ydy'r olaf!Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi.

7. Pwy sy'n debyg i mi?Boed iddo honni'r peth, a dadlau ei achos!Dwedais i wrth bobl ers talwm beth oedd i ddod;beth am iddo fe ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd!

8. Peidiwch bod ag ofn! Peidiwch dychryn!Ydw i ddim wedi dweud wrthoch chi ers talwm?Do, dw i wedi dweud, a chi ydy'r tystion!Oes yna unrhyw dduw arall ar wahân i mi?Na, does dim Craig arall; dw i ddim yn gwybod am un!

9. Mae'r rhai sy'n gwneud eilunodyn gwastraffu eu hamser.Dydy'r pethau maen nhw mor hoff ohonyn nhwyn dda i ddim!A dydy'r rhai sy'n tystio iddyn nhw ddim yn gweld!Dŷn nhw'n gwybod dim –ac felly maen nhw'n cael eu cywilyddio.

10. Pwy sy'n ddigon dwl i wneud duwneu gastio delw all wneud dim?

11. Mae pawb sy'n gweithio arnoyn cael eu cywilyddio.Crefftwyr, ie, ond creaduriaid meidrol ydyn nhw.Gadewch iddyn nhw ddod at ei gilydd i wneud safiad!Byddan nhw'n cael eu dychryn a'u cywilyddio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 44