Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 44:17-28 beibl.net 2015 (BNET)

17. Wedyn mae'n defnyddio beth sydd ar ôli wneud eilun yn dduw iddo'i hun!Mae'n plygu o'i flaen, ac yn ei addoli!Mae'n gweddïo arno a dweud,‘Achub fi! – ti ydy fy Nuw i!’

18. Dŷn nhw'n gwybod dim! Dŷn nhw ddim yn meddwl!Maen nhw wedi mynd yn ddall,ac mae eu meddyliau ar gau.

19. Dŷn nhw ddim yn meddwl am funud,dŷn nhw'n gwybod nac yn deall dim:‘Dw i wedi llosgi ei hanner yn y tân;wedi pobi bara arno,a rhostio cig i'w fwyta –yna gwneud y gweddill yn eilun ffiaidd!Dw i'n plygu i lawr i ddarn o bren!’

20. Mae e'n bwyta lludw!Mae ei feddwl wedi mynd ar gyfeiliorn!Mae'n methu achub ei hunna dod rownd i gyfaddef,‘Twyll ydy'r peth sydd yn fy llaw i!’

21. Cofia'r pethau yma, Jacobachos ti ydy fy ngwas i, Israel.Fi wnaeth dy siapio di, ac rwyt ti'n was i mi –fydda i ddim yn dy anghofio di, Israel.

22. Dw i wedi ysgubo dy wrthryfel di i ffwrdd fel cwmwl,a dy bechodau di fel niwl –Tro yn ôl ata i! Dw i wedi dy ryddhau di.”

23. Canwch fawl, nefoedd, achos mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud!Gwaeddwch yn uchel, ddyfnderoedd y ddaear!Bloeddiwch, fynyddoedd,a'r fforestydd a'u holl goed!Achos mae'r ARGLWYDD wedi rhyddhau Jacob,ac wedi dangos ei ysblander yn Israel.

24. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy'n dy ryddhau di; yr un wnaeth dy siapio di yn y groth:“Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi gwneud y cwbl:fi fy hun wnaeth daenu'r awyr,a lledu'r ddaear ar fy mhen fy hun.

25. Fi sy'n torri swynion dewiniaid,ac yn gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n darogan;gwneud i'r doethion lyncu eu geiriau,a gwneud nonsens o'u gwybodaeth nhw.

26. Dw i'n cadarnhau'r hyn mae fy ngwas yn ei ddweud,ac yn gwneud beth mae ei negeswyr yn ei gynghori.Dw i'n dweud wrth Jerwsalem, ‘Bydd pobl yn byw ynot ti,’ac wrth bentrefi Jwda, ‘Byddwch yn cael eich adeiladu;dw i'n mynd i ailgodi'r adfeilion.’

27. Fi ydy'r un ddwedodd wrth y môr, ‘Bydd sych!’ac wrth yr afonydd, ‘Dw i'n mynd i'ch sychu chi!’

28. A fi hefyd sy'n dweud wrth Cyrus, ‘Fy mugail wyt ti.’Bydd e'n gwneud beth dw i eisiau!Bydd yn dweud wrth Jerwsalem, ‘Cei dy adeiladu eto,’ac wrth y Deml: ‘Cei dy ail-sefydlu.’”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 44