Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 29:3-14 beibl.net 2015 (BNET)

3. Bydda i'n gwersylla o dy gwmpas,yn gwarchae arnat hefo byddinac offer gwarchae i ymosod arnat ti.

4. Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd;bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch.Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd,bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.

5. A bydd y dyrfa greulon ddaeth yn dy erbynyn cael eu malu fel llwch mân.Bydd y dyrfa o ormeswyrfel us yn cael ei chwythu i ffwrdd.Yn sydyn, mewn chwinciad,

6. bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn eu cosbigyda tharan, daeargryn, a sŵn byddarol;gyda corwynt, storm, a thân yn dinistrio.

7. A bydd yr holl genhedloedd wnaeth ryfela yn erbyn Ariel– ymosod arni, ei gwarchae a'i gormesu –fel breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos.

8. Bydd fel rhywun sy'n llwgu yn breuddwydio ei fod yn bwyta,ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag;neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed,ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp.Felly bydd hi ar yr holl genhedloeddsy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.

9. Arhoswch. Cewch eich syfrdanu!Ydych chi'n hollol ddall?Wedi meddwi – ond ddim ar win!Yn chwil – ond ddim ar gwrw!

10. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwneud chi'n gysglyd.Mae e wedi cau eich llygaid chi'r proffwydi,Ac wedi rhoi mwgwd dros eich pennau chi sy'n cael gweledigaethau.

11. Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi ei selio. Mae'n cael ei roi i rywun sy'n gallu darllen, a gofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw'n ateb, “Alla i ddim, mae wedi ei selio”.

12. Yna mae'n cael ei roi i rywun sydd ddim yn gallu darllen, a gofyn i hwnnw, “Darllen hwn i mi”, a'i ateb e ydy “Dw i ddim yn gallu darllen.”

13. Dyma ddwedodd y Meistr:Mae'r bobl yma'n dod ata iac yn dweud pethau gwych amdana i,ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i.Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ondtraddodiad dynol wedi ei ddysgu iddyn nhw.

14. Felly, dw i'n mynd i syfrdanu'r bobl ymadro ar ôl tro gyda un rhyfeddod ar ôl y llall.Ond bydd doethineb y deallus yn darfod,a chrebwyll pobl glyfar wedi ei guddio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 29