Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 29:2-9 beibl.net 2015 (BNET)

2. Ond dw i'n mynd i'w phoenydio,a bydd yn griddfan ac ochneidio.Bydd Ariel yn allor i aberthu i mi.

3. Bydda i'n gwersylla o dy gwmpas,yn gwarchae arnat hefo byddinac offer gwarchae i ymosod arnat ti.

4. Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd;bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch.Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd,bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.

5. A bydd y dyrfa greulon ddaeth yn dy erbynyn cael eu malu fel llwch mân.Bydd y dyrfa o ormeswyrfel us yn cael ei chwythu i ffwrdd.Yn sydyn, mewn chwinciad,

6. bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn eu cosbigyda tharan, daeargryn, a sŵn byddarol;gyda corwynt, storm, a thân yn dinistrio.

7. A bydd yr holl genhedloedd wnaeth ryfela yn erbyn Ariel– ymosod arni, ei gwarchae a'i gormesu –fel breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos.

8. Bydd fel rhywun sy'n llwgu yn breuddwydio ei fod yn bwyta,ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag;neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed,ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp.Felly bydd hi ar yr holl genhedloeddsy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.

9. Arhoswch. Cewch eich syfrdanu!Ydych chi'n hollol ddall?Wedi meddwi – ond ddim ar win!Yn chwil – ond ddim ar gwrw!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 29