Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 26:13-20 beibl.net 2015 (BNET)

13. O ARGLWYDD ein Duw,mae meistri eraill wedi bod yn ein rheoli ni,ond dim ond ti oedden ni'n ei gydnabod.

14. Mae'r lleill wedi marw, a fyddan nhw ddim yn byw;cysgodion ydyn nhw, a wnân nhw byth godi.Ti wnaeth benderfynu eu tynged nhw,eu dinistrio nhw a chael gwared â phob atgof ohonyn nhw.

15. Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, O ARGLWYDD,Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, ac ennill anrhydedd i ti dy hun.Ti wedi estyn ffiniau'r wlad.

16. ARGLWYDD, pan oedd hi'n argyfwng arnyn nhwdyma nhw'n dy geisio di.Roeddet ti wedi eu ceryddu nhwam yr holl sibrwd swynion.

17. Roedden ni o dy flaen di, O ARGLWYDD,fel gwraig ar fin cael plentyn,yn gwingo ac yn sgrechian mewn poen.

18. Ond os oedden ni'n feichiog, os oedden ni'n gwingo,doedden ni'n geni dim byd ond gwynt.Gafodd y wlad mo'i hachub;a doedd dim plant wedi eu geni i fyw yn y tir.

19. Ond bydd dy feirw di yn dod yn fyw!Bydd cyrff marw yn codi eto!Deffrwch a chanwch yn llawen,chi sy'n byw yn y pridd!Bydd dy olau fel gwlith y boreyn rhoi bywyd i dir y meirwon.

20. Ewch, fy mhobl!Ewch i'ch ystafelloedd,a chloi'r drysau ar eich hôl.Cuddiwch am funud fach,nes i'w lid basio heibio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 26