Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 23:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Neges am Tyrus:Udwch, longau masnach Tarshish!Does dim porthladd i fynd adre iddo– achos mae wedi ei ddryllio!Cafodd y newyddion ei gyhoeddi o Cyprus.

2. Galarwch, chi sy'n byw ar yr arfordir,chi fasnachwyr Sidon.Maen nhw wedi croesi'r môr i'w chyflenwi;

3. croesi'r dyfroedd mawriongyda had o Sihor a chynhaeaf yr Afon Nil;dyna oedd ei henillion –hi oedd marchnad y gwledydd.

4. Cywilydd arnat ti, Sidon!achos mae'r môr – y gaer ddiogel honno – wedi dweud,“Fi ydy'r un sydd heb ddiodde poenauwrth gael plant.Dw i heb fagu bechgyn ifancna merched ifanc!”

5. Pan fydd yr Aifft yn clywed am y pethbyddan nhw'n gwingo mewn poenwrth glywed am Tyrus.

6. Croeswch drosodd i Tarshish –Udwch, chi sy'n byw ar yr arfordir!

7. Ai dyma'r ddinas gawsoch chi'r fath firi ynddi? –y ddinas sydd a hanes mor hen iddi?Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu?

8. Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus,y ddinas oedd yn gwisgo coron,a'i masnachwyr yn dywysogionac yn bobl mor bwysig?

9. Yr ARGLWYDD holl-bwerus drefnodd y peth –i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch,a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd.

10. Hwyliwch adre bobl Tarshish,i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth yr Afon Nil;does dim harbwr i chi yma bellach.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 23