Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 2:2-10 beibl.net 2015 (BNET)

2. Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDDwedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd eraill,a'i godi'n uwch na'r bryniau.Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno,

3. a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD,a mynd i deml Duw Jacob,iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

4. Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloeddac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer.Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradra'u gwaywffyn yn grymanau tocio.Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.

5. Bobl Jacob – Dewch!gadewch i ni fyw yng ngolau'r ARGLWYDD.

6. Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl,pobl Jacob,am eu bod nhw'n llawn o ofergoelion y dwyrain;yn dweud ffortiwn fel y Philistiaidac yn gwneud busnes gydag estroniaid.

7. Mae'r wlad yn llawn o arian ac aur,does dim diwedd ar eu trysorau;Mae'r wlad yn llawn o feirch rhyfel,does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel.

8. Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth,ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo –pethau maen nhw eu hunain wedi eu creu!

9. Bydd pobl yn cael eu darostwnga pawb yn cywilyddio –paid maddau iddyn nhw!

10. Ewch i guddio yn y graig,a claddu eich hunain yn y llwch,rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDDeich dychryn chi!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 2