Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 2:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Y neges gafodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:

2. Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDDwedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd eraill,a'i godi'n uwch na'r bryniau.Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno,

3. a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD,a mynd i deml Duw Jacob,iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

4. Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloeddac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer.Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradra'u gwaywffyn yn grymanau tocio.Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.

5. Bobl Jacob – Dewch!gadewch i ni fyw yng ngolau'r ARGLWYDD.

6. Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl,pobl Jacob,am eu bod nhw'n llawn o ofergoelion y dwyrain;yn dweud ffortiwn fel y Philistiaidac yn gwneud busnes gydag estroniaid.

7. Mae'r wlad yn llawn o arian ac aur,does dim diwedd ar eu trysorau;Mae'r wlad yn llawn o feirch rhyfel,does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel.

8. Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth,ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo –pethau maen nhw eu hunain wedi eu creu!

9. Bydd pobl yn cael eu darostwnga pawb yn cywilyddio –paid maddau iddyn nhw!

10. Ewch i guddio yn y graig,a claddu eich hunain yn y llwch,rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDDeich dychryn chi!

11. Bydd y ddynoliaeth yn cael ei darostwng am ei balchder,a hunanhyder pobl feidrol yn cael ei dorri.Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmolbryd hynny!

12. Mae gan yr ARGLWYDD holl-bwerus ddiwrnod arbennigi ddelio gyda pob un balch a snobyddlyd,a phawb sy'n canmol eu hunain – i dorri eu crib nhw!

13. Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus,sydd mor dal ac urddasol;gyda choed derw Bashan;

14. gyda'r holl fynyddoedd uchela'r bryniau balch;

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 2