Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 13:2-13 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Codwch faner ar ben mynydd,a gweiddi'n uchel arnyn nhw!Codwch eich llaw i'w galwi mewn drwy giatiau'r bobl fawr!

3. Dw i wedi rhoi gorchymyn i'r rhai dw i wedi eu dewis,a galw fy milwyr cryfion i ddangos mor ddig dw i;milwyr balch sy'n brolio.”

4. Gwrandwch! Mae sŵn cynnwrf ar y mynyddoedd –fel byddin enfawr;Gwrandwch! Sŵn twrw'r gwledydd!Cenhedloedd yn casglu at ei gilydd!Mae'r ARGLWYDD holl-bwerusyn casglu byddin i ryfel!

5. Maen nhw'n dod o wlad bell,y tu hwnt i'r gorwel –yr ARGLWYDD ac arfau ei lid,yn dod i ddinistrio'r holl dir!

6. Udwch!Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos!Mae'n dod fel dinistr oddi wrth yr Un sy'n rheoli popeth.

7. Felly, bydd pob llaw yn llipa,a phawb wedi digalonni

8. a'u llethu gan ddychryn.Bydd poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,a byddan nhw'n gwingo mewn poenfel gwraig yn cael babi.Byddan nhw'n syllu'n syn ar ei gilydd,a'u hwynebau'n gwrido o gywilydd.

9. Ydy! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn dod;dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid,i droi'r ddaear yn anialwch diffaith,a chael gwared â phechaduriaid ohoni.

10. Fydd y sêr a'u clystyrauddim yn rhoi golau.Bydd yr haul yn dywyll pan fydd yn codi,a'r lleuad ddim yn llewyrchu.

11. “Bydda i'n cosbi'r byd am ei holl ddrygioni,a phobl ddrwg am eu pechod.Bydda i'n rhoi diwedd ar falchder pobl haerllug,ac yn torri crib y rhai creulon.

12. Bydd pobl yn fwy prin nag aur pur –yn fwy prin nag aur Offir.

13. Bydda i'n gwneud i'r awyr grynu,ac i'r ddaear ysgwyd o'i lle.”Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn barnuar ddiwrnod ei lid ffyrnig.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 13