Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 13:18-21 beibl.net 2015 (BNET)

18. Bydd eu bwâu yn taro'r dynion ifanc i lawr.Fydd dim tosturi at fabis bach,a fyddan nhw ddim yn arbed bywyd y plant.”

19. Bydd Babilon, y deyrnas harddaf– ysblander a balchder ei phobl –wedi ei bwrw i lawr gan Dduwfel Sodom a Gomorra.

20. Fydd neb yn byw yno byth eto;neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau –dim bedowin yn codi ei babell,na bugail yn gorffwys ei braidd.

21. Bydd ysbrydion yr anialwch yn gorwedd yno,a'r tai yn llawn creaduriaid yn udo.Bydd y dylluan yn byw yno,a'r gafr-ddemoniaid yn llamu o gwmpas.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 13