Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 13:12-16 beibl.net 2015 (BNET)

12. Bydd pobl yn fwy prin nag aur pur –yn fwy prin nag aur Offir.

13. Bydda i'n gwneud i'r awyr grynu,ac i'r ddaear ysgwyd o'i lle.”Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn barnuar ddiwrnod ei lid ffyrnig.

14. Bydd pawb yn troi at ei bobl ei hunac yn dianc i'w gynefin;fel gasél yn dianc pan mae'n cael ei hela,neu ddefaid ar wasgar a neb i'w casglu.

15. Bydd pawb sy'n cael ei ddarganfod yn cael ei drywanu,a phawb sy'n cael ei ddal yn cael ei ladd â'r cleddyf.

16. Bydd eu plant bach yn cael eu curo i farwolaeth,a'u lladd o flaen eu llygaid;eu cartrefi'n cael eu gwagio,a'u gwragedd yn cael eu treisio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 13