Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 10:3-15 beibl.net 2015 (BNET)

3. Beth wnewch chi ar ddiwrnod y cosbi,pan fydd dinistr yn dod o bell?At bwy fyddwch chi'n rhedeg am help?I ble'r ewch chi i guddio eich trysor?

4. Bydd rhaid crymu gyda'r carcharorion eraill,neu syrthio gyda phawb arall sy'n cael eu lladd!Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.

5. Gwae Asyria,y wialen dw i'n ei defnyddio pan dw i'n ddig,Mae'r ffon sy'n dangos fy mod i wedi gwylltioyn ei llaw hi.

6. Dw i'n ei hanfon yn erbyn cenedl annuwiol,ac yn dweud wrthi am ymosod ar y bobl sy'n fy nigio i;i ysbeilio a rheibio a'u sathru dan draedfel baw ar y stryd.

7. Ond dim dyna ydy bwriad Asyria –rhywbeth arall sydd ganddi hi mewn golwg.Ei bwriad hi ydy dinistrio,a difa gwledydd yn llwyr – llawer ohonyn nhw!

8. Mae'n meddwl,“Mae brenhinoedd wedi dod yn swyddogion i mi!

9. Onid ydy Calno yr un fath â Carcemish?a Chamath fel Arpad?a Samaria fel Damascus?

10. Gan fy mod i wedi cael gafaelyn y gwledydd hynny a'u heilun-dduwiau –gwledydd oedd â llawer mwy o ddelwauna Jerwsalem a Samaria –

11. bydda i'n gwneud yr un peth i Jerwsalem a'i heilunodag a wnes i i Samaria a'i delwau.”

12. Ond pan fydd y Meistr wedi gorffen delio gyda Mynydd Seion a Jerwsalem, bydd e'n cosbi brenin Asyria am fod mor falch ac mor llawn ohono'i hun.

13. Am feddwl fel hyn:“Dw i wedi gwneud y cwbl am fy mod i mor gryf.Roedd gen i strategaeth glyfar,a dw i wedi dileu ffiniau gwledydd.Dw i wedi cymryd eu trysorau nhw,ac wedi bwrw brenhinoedd i lawr fel tarw.

14. Cefais afael ar gyfoeth y gwledyddmor hawdd a dwyn wyau o nyth:heb neb yn fflapio'i adenyddnag yn agor ei big i drydar.”

15. Ydy bwyell o unrhyw werth heb rywun i'w thrin?Ydy llif yn bwysicach na'r un sy'n ei defnyddio?Fel petai gwialen yn chwifio'r dyn sy'n ei chodi!Fel petai ffon yn codi'r person sydd ddim yn bren!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 10