Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 10:16-27 beibl.net 2015 (BNET)

16. Felly, bydd y Meistr—yr ARGLWYDD holl-bwerus—yn anfon afiechyd fydd yn nychu ei filwyr iach;bydd twymyn yn taro ei ysblanderac yn llosgi fel tân.

17. Bydd Golau Israel yn troi'n dân,a'r Un Sanctaidd yn fflam.Bydd yn llosgi'r drain a'r mieri mewn diwrnod,

18. a dinistrio'r goedwig a'r berllan yn llwyr.Bydd fel bywyd dyn sâl yn diflannu.

19. Bydd cyn lleied o goed ar ôlbydd plentyn bach yn gallu eu cyfri!

20. Bryd hynny,fydd y rhai sydd ar ôl yn Israela'r rhai hynny o bobl Jacob sydd wedi diancddim yn pwyso ar y genedl wnaeth eu gorthrymu nhw;Byddan nhw'n pwyso'n llwyrar yr ARGLWYDD, Un sanctaidd Israel.

21. Bydd rhan fechan,ie, rhan fechan o Jacobyn troi yn ôl at y Duw cryf.

22. Israel, hyd yn oed petai dy boblmor niferus â thywod y môr,dim ond nifer fechan fydd yn dod yn ôl.Mae'r dinistr yn sicr.Mae'r gosb sydd wedi ei haeddu yn dod fel llifogydd!

23. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn barod i ddod â'r dinistr sydd wedi ei ddyfarnu ar y tir.

24. Felly, dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud: “O fy mhobl, sy'n byw yn Seion, peidiwch bod ag ofn Asyria – er iddo dy daro di gyda'i wialen a dy fygwth gyda'i ffon fel y gwnaeth yr Eifftiaid.

25. Yn fuan iawn bydd fy nig wedi ei dawelu, a bydda i'n troi i'w dinistrio nhw.”

26. Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn chwifio ei chwip uwch eu pennau, fel y gwnaeth pan drawodd Midian wrth Graig Oreb. Bydd yn codi ei wialen fel y gwnaeth dros yr Eifftiaid wrth y môr.

27. Bryd hynny,bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di,a bydd iau Assyria'n cael ei dorri oddi ar dy waram ei fod mor hunanfodlon.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 10