Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 47:8-18 beibl.net 2015 (BNET)

8. “Mae'r dŵr yma,” meddai wrtho i “yn llifo allan tua'r dwyrain, i lawr i'r Araba ac yna i'r Môr Marw. Pan mae'n gwagio i'r Môr, mae'r dŵr hallt yn troi yn ddŵr glân, ffres.

9. Ble bynnag mae'r afon yn llifo bydd creaduriaid o bob math yn byw ac yn ffynnu. Bydd llwythi o bysgod yn byw yn y Môr am fod yr afon wedi troi y dŵr hallt yn ddŵr glân. Ble bynnag mae'r dŵr yn llifo bydd bywyd yn llwyddo.

10. Bydd pysgotwyr yn sefyll ar lan y Môr Marw. Byddan nhw'n taenu eu rhwydi pysgota yr holl ffordd o En-gedi i En-eglaim. Bydd y Môr Marw yn llawn pysgod o bob math, yn union fel Môr y Canoldir.

11. Ond bydd y corsydd a'r pyllau o'i gwmpas yn aros yn hallt.

12. Bydd coed ffrwythau o bob math yn tyfu bob ochr i'r afon. Fydd eu dail byth yn gwywo, a bydd ffrwyth yn tyfu arnyn nhw bob amser. Bydd cnwd newydd yn tyfu arnyn nhw bob mis am fod eu dŵr yn llifo o'r cysegr. Bydd eu ffrwyth yn fwyd, a'i dail yn iacháu.”

13. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyma'r ffiniau ar gyfer rhannu'r tir rhwng deuddeg llwyth Israel (Bydd Joseff yn cael dwy ran).

14. Mae'r tir i'w rannu'n gyfartal rhwng y llwythau. Roeddwn i wedi ei addo i'r hynafiaid, ac mae'n cael ei roi yn etifeddiaeth i chi.

15. “A dyma'r ffiniau:Bydd ffin y gogledd yn rhedeg o Fôr y Canoldir ar hyd ffordd Chethlon a Bwlch Chamath i Sedad.

16. Wedyn i Berotha a Sibraim (sydd ar y ffin rhwng Damascus a Chamath), ac yna'r holl ffordd i Chatser-hatticon (sydd ar y ffin gyda Chawran).

17. Felly bydd y ffin yn rhedeg o Fôr y Canoldir i Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Dyna ffin y gogledd.

18. Wedyn i'r dwyrain mae'r ffin yn rhedeg o'r pwynt yna rhwng Chawran a Damascus, i lawr Afon Iorddonen rhwng Israel a Gilead, ac wedyn heibio'r Môr Marw cyn belled â Tamar yn y de. Dyna'r ffin i'r dwyrain.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 47