Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 47:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Aeth y dyn â fi yn ôl at fynedfa'r deml ei hun. Gwelais fod dŵr yn tarddu allan o dan drothwy y deml ac yn llifo i gyfeiriad y dwyrain (sef y cyfeiriad roedd y deml yn ei wynebu). Roedd y dŵr yn llifo ar hyd wal ddeheuol y deml, i'r de o'r allor.

2. Yna aeth y dyn â fi allan drwy giât y gogledd a rownd at y giât allanol sy'n wynebu'r dwyrain. Yno roedd y dŵr i'w weld yn pistyllio allan ar yr ochr ddeheuol i'r giât.

3. Aeth y dyn allan i gyfeiriad y dwyrain gyda llinyn mesur yn ei law. Mesurodd 525 metr ac yna fy arwain drwy'r dŵr. Roedd i fyny at fy fferau.

4. Mesurodd 525 metr arall, ac yna fy arwain drwy'r dŵr eto. Erbyn hyn roedd i fyny at fy ngliniau. Mesurodd 525 metr arall, ac roedd y dŵr i fyny at fy nghanol.

5. Yna mesurodd 525 metr arall ac roedd yn afon amhosib i'w chroesi ar droed. Roedd y dŵr yn ddigon dwfn i nofio ynddo, ond doedd hi ddim yn bosib cerdded trwyddo.

6. Yna dwedodd wrtho i, “Ddyn, wyt ti wedi gweld hyn?”Yna aeth â fi yn ôl i lan yr afon.

7. Pan gyrhaeddais yno gwelais fod lot fawr o goed yn tyfu bob ochr i'r afon.

8. “Mae'r dŵr yma,” meddai wrtho i “yn llifo allan tua'r dwyrain, i lawr i'r Araba ac yna i'r Môr Marw. Pan mae'n gwagio i'r Môr, mae'r dŵr hallt yn troi yn ddŵr glân, ffres.

9. Ble bynnag mae'r afon yn llifo bydd creaduriaid o bob math yn byw ac yn ffynnu. Bydd llwythi o bysgod yn byw yn y Môr am fod yr afon wedi troi y dŵr hallt yn ddŵr glân. Ble bynnag mae'r dŵr yn llifo bydd bywyd yn llwyddo.

10. Bydd pysgotwyr yn sefyll ar lan y Môr Marw. Byddan nhw'n taenu eu rhwydi pysgota yr holl ffordd o En-gedi i En-eglaim. Bydd y Môr Marw yn llawn pysgod o bob math, yn union fel Môr y Canoldir.

11. Ond bydd y corsydd a'r pyllau o'i gwmpas yn aros yn hallt.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 47